Trebefered (Boverton)Ym mhlasty Trebefered, ger Llanilltud Fawr, y magwyd Ann Matthews, mam Iolo. Priododd â thad Iolo, Edward Williams, yn eglwys Sain Tathan ar 8 Tachwedd 1744. Yr oedd yn ferch i Edward Matthews o Dy'ncaeau, plwyf Llangrallo. Pan oedd yn naw oed, bu farw ei mam a gwerthodd ei thad ei etifeddiaeth. O ganlyniad, magwyd Ann gan chwaer ei mam, a oedd wedi priodi i mewn i hen deulu Seisiaid Trebefered.Cafodd magwraeth freintiedig ei fam ddylanwad ar y ddelwedd ohono ef ei hun a gyflwynodd Iolo i'r byd llenyddol Seisnig. Bu farw ei phlentyn cyntafanedig, Ann, ac felly, pan anwyd Iolo, bu ei fam yn or-ofalus ohono, ac yn ei ragarweiniad i Poems, Lyric and Pastoral (1794) dywed Iolo mai ef oedd ffefryn ei fam. Yn wir, deil rhai mai ei berthynas agos â'i fam sy'n esbonio seicoleg Iolo: ei fyfïaeth, ei gymhlethdod israddoldeb, a'i duedd at ramantu'r gorffennol. |