Silstwn (Gileston)Yr oedd gan Iolo a'i deulu gysylltiadau â Silstwn. Bu tad Iolo, Edward Williams yr hynaf, yn byw yn y pentref hwn cyn priodi a symud i Bennon, lle y ganed Iolo. Tybir bod enghraifft o'i waith fel saer maen i'w gweld ar fur yng nghefn yr eglwys. Mae'n bosibl y gwelir hefyd enghraifft o grefftwaith Iolo yn y fynwent. Cadwai Taliesin Williams ysgol yn y pentref ar un adeg. |