E N G L I S H

Aberddawan (Aberthaw)


Canodd Iolo gerdd i'r afon Ddawan a'i chyhoeddi yn Poems, Lyric and Pastoral (1794).

Y mae llawer o gyfeiriadau at borthladd Aberddawan ymysg papurau Iolo, ond yr oedd y porthladd wedi dirywio erbyn diwedd y 18fed ganrif. Pan weithiai fel saer maen gyda'i dad, byddai Iolo'n hwylio oddi yno i Fryste i brynu marmor, ac yn ddiweddarach byddai'n dilyn yr un hynt ar ei ymweliadau niferus â Llundain. Am gyfnod ar ddechrau'r 1780au yr oedd ganddo slŵp o'r enw y Lion a groesai afon Hafren yn fynych o'r porthladd bach hwn.

Ddechrau 1781 gwnaeth Iolo gais aflwyddiannus am swydd swyddog tollau yn Aberddawan. Ymddiddorai hefyd yn hanes y porthladd a chedwir papurau a gwybodaeth a gawsai gan hen drigolion y cylch ymhlith ei bapurau.
Gweinyddu