Dyma enghraifft benigamp o'r modd y byddai Iolo yn defnyddio pob dernyn o bapur. 1782 yw dyddiad y llythyr gwreiddiol oddi wrth Edward Eagleton, masnachwr te o Lundain, ond tybir mai tua 1812 yr ailgylchodd Iolo'r papur oherwydd ymddengys mai drafft o'i ragymadrodd i'r gyfrol o emynau, Salmau yr Eglwys yn yr Anialwch (1812), yw'r nodiadau blêr hyn. Mae cyfran helaeth o'r nodiadau yn lladd ar y 'Deudneudwyr' (gwŸr gogledd Cymru) a cheir cic gas hefyd at Owen Jones (Owain Myfyr).

Llythyr Edward Eagleton at Iolo Morganwg, 3 Awst 1782