Iolo Morganwg: Yr UndodwrBedyddiwyd, priodwyd a chladdwyd Iolo Morganwg mewn gwahanol eglwysi Anglicanaidd ym Mro Morgannwg. Serch hynny, o'r 1790au cynnar hyd ei farwolaeth ym 1826, Undodwr gwrth-sefydliadol a gwrth-glerigol tanbaid oedd ef. Yn wir, honnodd â chryn falchder mai ef oedd un o sylfaenwyr Cymdeithas Dwyfundodiaid De Cymru (1802). O'r 1770au ymlaen meithrinwyd ei dueddiadau anuniongred gan weinidogion a chrefftwyr Anghydffurfiol ym Morgannwg, a dwysawyd ei ddiffyg parch at y drefn wleidyddol a chrefyddol gan ei brofiad yn y carchar rhwng 1786 a 1787. Yn sgil ei ymweliadau cyson â Bryste a Llundain, datblygodd ymdeimlad annibynnol cryf, ynghyd ag ymlyniad wrth ryddid, gwrth-drindodiaeth ac awydd i ddiwygio. Closiodd at Undodwyr Essex Street, Llundain, a daeth i adnabod David Williams, Joseph Priestley a Theophilus Lindsey. Yng Nghymru, Iolo a Thomas Evans (Tomos Glyn Cothi) oedd yr Anghydffurfwyr Rhesymegol mwyaf hyglyw ac ymosodol yn ystod y 1790au. Trwy gyfrwng yr Orsedd, yr eisteddfod a'r wasg argraffu, heriasant gefnogwyr 'Gwlad ac Eglwys' gan ymhoffi yn egwyddorion y Chwyldro Ffrengig. Ym 1802 yr oedd Iolo yn allweddol wrth ffurfio Cymdeithas Dwyfundodiaid De Cymru ac ymgyrchodd yn galed ar ei rhan cyn i Undodiaeth gael ei chyfreithloni ym 1813, ac wedi hynny. Trefnodd deithiau pregethu ar gyfer gwrth-drindodwyr blaenllaw, croesodd gleddyfau ag esgobion megis Thomas Burgess, esgob Tyddewi, a chyhoeddodd gasgliad o emynau a salmau yn dwyn y teitl Salmau yr Eglwys yn yr Anialwch (1812). Yn ei sir enedigol ym Morgannwg ac yn 'Y Smotyn Du' yng nghefn gwlad siroedd Ceredigion a Chaerfyrddin, dathlwyd ef fel 'tad' yr achos Undodaidd. Dyma eiriau Iolo ei hun: 'Remember, as I have long lived so will I die in the unshaken belief of the doctrines of Unitarian Christianity.' |