Y sylwebydd amaethyddol a'r FfermwrYr oedd Iolo yn byw mewn cyfnod o newid mawr. Yn ystod ei oes, yr oedd economi drefol a ddibynnai'n drwm ar ddiwydiant ar gynnydd yng Nghymru. Ym 1796 cynigiodd Iolo ei wasanaeth i'r Bwrdd Amaeth ar gyfer llunio adroddiad ar amaethyddiaeth ac economi wledig de Cymru. Swyddogaeth y Bwrdd oedd pwyso a mesur cyflwr amaethyddol y deyrnas, ynghyd â hybu dulliau amaethu modern. Fel y dengys ei ddyddiaduron taith, byddai Iolo wedi bod yn gymwys iawn i gyflawni'r gwaith. I ddechrau, bu'n pori yn adroddiadau cyntaf y Bwrdd Amaeth (1792 a 1794) ac yr oedd eisoes yn gyfarwydd â'r wlad a'i nodweddion yn sgil y teithiau cerdded mynych a wnaeth drwy Gymru benbaladr dros y blynyddoedd i gasglu llawysgrifau. Yr oedd hefyd yn gyfarwydd â daeareg de Cymru yn sgil ei waith fel saer maen. At hynny, yr oedd wedi treulio cyfnod byr yn ffermio tir yng Ngwynllŵg, ger Rhymni, Caerdydd. Etifeddodd dir gan ei dad-yng-nghyfraith, Rees Roberts, ym 1781, a dwy flynedd yn ddiweddarach rhentiodd ragor o dir yn Llandaf (NLW 21389E, f. 8). Bu'n arbrofi ag India-corn ac ymddiddorai mewn technegau a wyntyllwyd gan amaethwyr blaengar ei gyfnod megis Arthur Young a William Marshall. Daeth y fenter ffermio i ben pan garcharwyd Iolo am ei ddyledion yn Awst 1786. Er gwaethaf ei addasrwydd at y gwaith, ni chyflogwyd Iolo gan y Bwrdd Amaeth. Y mae'n debyg mai ei wleidyddiaeth radicalaidd oedd y bwgan mawr i aelodau'r Bwrdd. Ofnent na allai ffrwyno'i hun rhag lladd ar offeiriaid a gormeswyr yn ei nodiadau amaethyddol! (NLW 21281E, Llythyr 276, William Mathews at Iolo Morganwg, 6 Hydref 1796) Yn y pen draw comisiynwyd Walter Davies (Gwallter Mechain) i ymgymryd â'r adroddiad ar ogledd Cymru a chytunodd hefyd i lunio'r adroddiad ar dde Cymru. Serch hynny, o tua 1801 ymlaen, llwyddodd Owen Jones a William Owen Pughe i ddwyn perswâd ar Iolo i gynorthwyo Walter Davies gyda'r adroddiad ar dde Cymru. Dibynnodd Walter Davies yn drwm ar bapurau a llawysgrifau Iolo ac, er iddo ddiolch i Iolo am ei gymorth, ni fanylodd ar faint ei ddyled iddo. I raddau helaeth, felly, Iolo oedd cyd-awdur answyddogol A General View of the Agriculture and Domestic Economy of South Wales (2 gyf., London, 1815). |