Yr Hynafiaethydd a Saer Cenedl: BarddasY mae dwy wedd ar weithgarwch hynafiaethol Iolo Morganwg. Yn gyntaf, y mae ei waith hynafiaethol dilys ar y traddodiad barddol Cymraeg, ac yn ail, y mae Barddas, sef ei weledigaeth greadigol o'r traddodiad hwnnw. O ran gwaith hynafiaethol dilys Iolo, rhaid ystyried ei weithgarwch yn casglu a chopïo llawysgrifau. Gwnaeth lawer o'r gwaith hwn wrth baratoi ar gyfer ei gyfrol arfaethedig ar y traddodiad barddol, 'The History of the Bards', ac ar gyfer y tair cyfrol a argraffwyd dan nawdd y Gwyneddigion, The Myvyrian Archaiology of Wales (1801-7). Bu wrthi'n ddiwyd hefyd yn casglu alawon a chaneuon gwerin. Yn sgil y gwaith ymchwil manwl hwn, daeth Iolo yn arbenigwr ar ddatblygiad y gynghanedd ac ar hynt y traddodiad barddol dilys. Sylweddolodd nad oedd 'Statud Gruffudd ap Cynan' yn gyfoes â'r Gruffudd ap Cynan hanesyddol, a gwelodd gyfatebiaethau rhwng gwaith Dafydd ap Gwilym a gwaith y troubadours a'r trouvères ar y Cyfandir. Iolo hefyd oedd y cyntaf i lawn werthfawrogi arwyddocâd eisteddfodau Caerfyrddin (c.1453) a Chaerwys (1523 a 1567) yn hanes yr urdd farddol broffesiynol. At hynny, deallodd oblygiadau pellgyrhaeddol newidiadau Dafydd ab Edmwnd i'r mesurau barddol a gadarnhawyd yn eisteddfod Caerfyrddin. Er iddo ddefnyddio'i wybodaeth drylwyr o'r traddodiad barddol i greu naratif a oedd yn dyrchafu Cymru, a Morgannwg yn arbennig, gwyddom fod gan Iolo ddealltwriaeth lawnach o ddatblygiad cyffredinol barddoniaeth gaeth Gymraeg na'r un o'i gyfoeswyr. Yn ail, ystyrir Barddas, ei weledigaeth farddol, a oedd yn seiliedig ar ei astudiaethau hynafiaethol dilys. Credai Dyneiddwyr Cymru a'r hynafiaethwyr a ragflaenodd Iolo mai tyst i natur oleuedig frodorol Cymru oedd y traddodiad barddol Cymraeg. Parhau i ledaenu'r gred hon a wnaeth Iolo a'i gyfoeswyr yn y rhagarweiniad i The Myvyrian Archaiology of Wales. Ond yn ei fersiwn ef o'r traddodiad barddol Cymraeg, sef Barddas, aeth Iolo gam ymhellach. Y mae Barddas yn amddiffyn iaith, llenyddiaeth a diwylliant Cymru, ynghyd â nodweddion y Cymry, mewn modd hynod iawn. Gwnaeth hyn trwy weu stôr o wybodaeth a thraddodiadau cyffredinol am Dderwyddiaeth i hanes dilys y traddodiad barddol. Nid Iolo oedd y cyntaf i gredu mai disgynyddion y Derwyddon gynt oedd y beirdd proffesiynol Cymraeg. Dilyn John Leland a Syr John Pryse a wnaeth Iolo yn hyn o beth, ac erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif yr oedd y Derwydd yn ffigwr Rhamantaidd o bwys. Wfftiai Iolo at syniadau Henry Rowlands yn Mona Antiqua Restaurata (1723) mai Môn, ac nid Morgannwg, oedd gwir gartref y Derwyddon ym Mhrydain. I Iolo, yr oedd y termau 'bardd' a 'derwydd' yn gyfystyr â'i gilydd. Cynhwysir llawer o wybodaeth am wreiddiau derwyddol honedig yr urdd farddol yn ei ysgrifau amrywiol ar Farddas. Er enghraifft, crynhoir manylion am urddau, gwisgoedd a chrefydd batriarchaidd y beirdd/derwyddon yn The Heroic Elegies of Llywarç Hen (1792) ac yn y traethawd 'A Short Account of the Ancient British Bards' a fwriedid ar gyfer 'The History of the Bards'. Gweodd hefyd elfennau radicalaidd ac Undodaidd i'w weledigaeth er mwyn profi pa mor wareiddiedig oedd y Cymry er yn gynnar iawn yn eu hanes. Un o'r dylanwadau pwysicaf ar Farddas Iolo oedd Cyntefigiaeth (S. Primitivism). Dysgodd am Gyntefigiaeth trwy gyfrwng y ddadl gyfoes am Ossian a thrwy waith hynafiaethwyr Gwyddelig megis Charles Vallancey, Joseph Cooper Walker a Sylvester O'Halloran, a ddefnyddiodd hanes a llên gynnar Iwerddon i herio'r ddelwedd o'r Celtiaid fel pobl farbaraidd. Ymgais ymwybodol yw Barddas a'i helfennau (Dosbarth Morgannwg a Choelbren y Beirdd) i brofi i'r byd Seisnig dylanwadol mai cenedl soffistigedig a syber oedd y Cymry. Dyfeisiodd Iolo wyddor dderwyddol arbennig, sef Coelbren y Beirdd, a'i phriodoli i'r beirdd Cymreig. Tybid bod cysylltiad cryf rhwng datblygiad diwylliannol cenedl a llythrennedd. Gwyddai Iolo am sylwadau Dr Samuel Johnson, a gredai mai anllythrennedd Scotiaid yr Ucheldir a oedd yn cyfrif am eu barbariaeth honedig. Darllenodd hefyd farn Paul Henri Mallet yn Northern Antiquities (1770), sef fod diffyg gwyddor gynhenid yn y gwledydd Celtaidd yn brawf pendant o'u diffyg gwarineb cyffredinol. Ymateb uniongyrchol i'r honiadau hyn oedd Coelbren y Beirdd, oherwydd fe'i defnyddid gan Iolo fel prawf o lythrennedd cynnar ymhlith y Cymry ac, felly, yn brawf diymwad o'u syberwyd. Rhan o'r weledigaeth ehangach hon oedd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Creadigaeth wydn oedd Barddas, ac yr oedd ei strwythur mewnol yn cadarnhau goruchafiaeth Morgannwg ar Wynedd ac yn ategu awdurdod Iolo Morganwg uwchlaw neb arall. Camp Iolo oedd creu sefydliad diwylliannol cenedlaethol a goleddai'r iaith Gymraeg yn ogystal â'i llên a'i diwylliant. Gwireddir gweledigaeth Iolo o hyd trwy gyfrwng Gorsedd y Beirdd a'r Eisteddfod. Gweler Cathryn A. Charnell-White, Bardic Circles: National, Regional and Personal Identity in the Bardic Vision of Iolo Morganwg (Cardiff, 2007) Dolenni Allanol sy'n trafod Gorsedd y Beirdd: Amgueddfa Genedlaethol Cymru Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhagarweiniad The Myvyrian Archaiology of Wales (detholiad)These books are venerable monuments of enlightened periods of literature amongst the Britons, while scenes of barbarity were acted over Europe, and darkened the light of our island: a literature whose origin was not borrowed, but matured at home, under that extraordinary system, the Bardic Institution; concerning which, under the name of Druidism, much has been written, much misunderstood, and of which the world yet knows but very little. From a consciousness that time was rapidly diminishing the number of our most curious manuscripts, the conductors of the present undertaking were induced to take the necessary measures for preserving the contents of those remaining, by printing a few copies to supply the demand of the collectors of British History and Antiquities. Towards accomplishing such a design, they lately increased a collection, which they had been several years accumulating for themselves, by purchasing many manuscripts, and by procuring transcripts of others, and the editors made application also to gentlemen possessed of rich treasures of this kind, for the use of their writings. . . . These volumes will form a thesaurus of ancient British verse, through the space of about twelve hundred years; and they will display various characteristics, with respect of style and manner. The first volume of Prose Archaiology is dedicated to history. It will embrace about the same extensive period as the first volume of poetry ... Therein the reader may perceive, that the Welsh have some records of their origin, and of ancient events, the preservation of which must obtain to them fair cause of exultation, in the presence of the nations of Europe. The succeeding volume of Prose contains monuments of various parts of learning and science: amongst other matters, maxims of social economy and morality; a splendid collection of proverbs; institutes of grammar and of poetry. These, as they become known, will shine unexpectedly and with brilliant lustre before the world. 'Introduction', Owen Jones, Iolo Morganwg and William Owen Pughe, The Myvyrian Archaiology of Wales (3 vols., London, 1801-7), pp. v-vi. |