PontypriddNi chynhaliodd Iolo yr un seremoni orseddol rhwng 1799 a 1814. Ond wedi i Napoleon encilio i ynys Elba yn 1814 ysgogwyd gweithgarwch gorseddol gan yr heddwch newydd rhwng Prydain a Ffrainc. Yn wir, gosododd Iolo y testun 'Adferiad Heddwch' fel thema ar gyfer y beirdd yn y cyfarfod gorseddol a drefnwyd ym Mhontypridd, 1 Awst 1814. Yr oedd Pontypridd y tu hwnt i ardal arferol Iolo ac yn adlewyrchu dylanwad cenhedlaeth newydd o feirdd, megis Thomas Williams (Gwilym Morganwg) ac Evan (neu Ifan) Cule. Cynhelid y cyfarfodydd cyhoeddus hyn yn y New Inn, sef tafarn Thomas Williams, un o edmygwyr pennaf Iolo a gŵr a ddaeth yn noddwr gwerthfawr i'r Orsedd yn y cyfnod hwn o adfywiad. Erbyn hyn yr oedd Iolo yn tynnu at oed yr addewid ac felly y mae'n deg tybio mai brwdfrydedd Thomas Williams a yrrai'r Orsedd yn y cyfnod hwn. Byddai Thomas Williams yn hysbysebu'r Gorseddau a gynhelid ar y Maen ChwŸf, a daethpwyd i adnabod yr eisteddfodau a gynhaliwyd yn ei dafarn fel Cyfarfodydd Gwilym Morganwg neu Gymdeithas y Maen ChwŸf. Y mae'r Gorseddau hyn hefyd yn dynodi ymwneud Taliesin, mab Iolo, â'r Orsedd. Roedd Taliesin eisoes wedi ei urddo yn Ofydd, yn ei absen, mewn Gorsedd yn Llundain ym 1792, ond fe'i hurddwyd yn llawn i'r 'arcana of Druidism' ym 1814 - arwydd o'i brifiant fel bardd ac ymgais Iolo i'w sefydlu yn olynydd teilwng iddo. Y mae poblogrwydd cymharol Gorseddau'r Maen ChwŸf yn awgrymu bod Gorsedd Iolo wedi tyfu'n ganolbwynt ar gyfer gweithgarwch llenyddol yn yr ardal, a pharhaodd ei ddylanwad trwy gydol y 19eg ganrif. Yn un peth, yr oedd y Gorseddau yn cynnig cyfleoedd i feirdd ifainc i farddoni a datgan eu barddoniaeth. Caent hefyd hyder i gyhoeddi eu cynnyrch mewn cylchgronau megis Seren Gomer ac mewn amryw flodeugerddi megis Llais Awen Gwent a Morganwg (1824), Awenyddion Morganwg, neu Farddoniaeth Cadair Merthyr Tudful (1826) a Ffrwyth yr Awen: sef Awdlau, Cywyddau, ac Ynglynion, a ddanfonwyd i Eisteddfod Gwent, Medi 1822 (1823). |