Llan-fair (St Mary Church)Yn Llan-fair y saif yr eglwys lle y priodwyd Iolo â Margaret (Peggy) Robert(s) ym mis Gorffennaf 1781. Mewn llythyr, dyddiedig 20 Medi 1783, at Owen Jones (Owain Myfyr), disgrifiodd Iolo ei briodas fel 'bedd yr awen' (gweler hefyd lythyr Daniel Walters, 1 Hydref 1782). Y Parchedig John Walters oedd yn gwasanaethu yn y briodas ac ef hefyd a fedyddiodd Margaret (Peggy), eu plentyn cyntaf, fis Gorffennaf 1782. Yng nghefn yr eglwys gwelir y garreg fedd gain a gerfiodd Iolo ar gyfer Rees Robert(s), ei dad-yng-nghyfraith a fu farw ym 1780. |