E N G L I S H

Y Bewpyr (Beaupré)

Castell y Bewpyr (Beaupré), ger Trefflemin, oedd cartref Basetiaid Morgannwg. Fe'i codwyd gan Richard Basset ym 1586. Yn ystod y rhyfeloedd cartref, roedd y Basetiaid yn gefnogwyr brwd o blaid y brenin, ac o ganlyniad bu iddynt ddioddef colledion mawr yn ystod y cyfnod hwnnw. Yr oedd eu cartref yn wag yn ystod ieuenctid Iolo.

Yn ei weledigaeth Ramantaidd o Forgannwg, gweddnewidiwyd Castell y Bewpyr, fel llawer man arall, gan Iolo.
Porth Castell y Bewpyr © Cathryn Charnell White

Porth Castell y Bewpyr © Cathryn Charnell White

Lluniodd hanesyn rhamantaidd am borth cain y Bewpyr a oedd yn troi o amgylch y brodyr Twrch a'r ffaith iddynt ymserchu yn yr un ferch. I Iolo, yr oeddynt yn esiamplau o'r athrylith gynhenid a oedd wedi prifio ym Morgannwg, a haerodd mai'r brodyr Twrch, yn hytrach nag Inigo Jones (a gysylltir â sir Ddinbych), a gyflwynodd y dull pensaernïol clasurol i Gymru. Gweler llythyr Iolo Morganwg at Richard Hoare, 17 Awst 1797.

I Iolo, Castell y Bewpyr oedd lleoliad un o'r digwyddiadau mwyaf arwyddocaol yn hanes Barddas: eisteddfod y Bewpyr a gynhaliwyd adeg y Sulgwyn 1681. Hon, meddai, oedd un o eisteddfodau disgleiriaf y traddodiad barddol. Honnodd mai yn eisteddfod y Bewpyr y cadarnhawyd Dosbarth Morgannwg, y system fydryddol a gyhoeddwyd yn y pen draw yn Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain (1829). Yn ôl Iolo, Edward Dafydd a'i ddisgybl barddol Dafydd o'r Nant a arweiniodd yr eisteddfod rithiol hon, ac yn hyn o beth yr oedd rhuddin ffeithiol i'w ffantasi dderwyddol, oherwydd gwyddai Iolo fod Edward Dafydd, un o'r rhai olaf i fyw wrth ei alwedigaeth fel bardd, ymhlith y beirdd a noddwyd gan Fasetiaid y Bewpyr.
Castell y Bewpyr, lleoliad eisteddfod honedig 1681 © Cathryn Charnell White

Castell y Bewpyr, lleoliad eisteddfod honedig 1681 © Cathryn Charnell White



Admin