E N G L I S H

Y Prosiect

Iolo Morganwg a'r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru, 1740-1918

Sefydlwyd y prosiect ymchwil hwn ym mis Hydref 2001 a daeth i ben mis Medi 2008. Fe'i hariannwyd ar y cyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a Phrifysgol Cymru. Ei brif amcan yw codi proffil Iolo Morganwg fel ffigwr o bwys yn y cyfnod Rhamantaidd drwy archwilio a dadansoddi'n feirniadol y deunydd cyfoethog a geir yn ei archif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyhoeddwyd cyfres o gyfrolau awdurdodol a hygyrch ar amryfal weddau ar ei fywyd a'i waith a hefyd ei ddylanwad ar lenyddiaeth ac ymwybyddiaeth hanesyddol Cymru hyd at y Rhyfel Mawr. Conglfaen y prosiect hwn yw ei gasgliad godidog o lythyrau a gyhoeddir mewn tair cyfrol.

Cover - Rattleskull Genius
A Rattleskull Genius: The Many Faces of Iolo Morganwg (2005)
Golygwyd gan Geraint H. Jenkins
Y mae'r gyfrol hon o ysgrifau yn ailgloriannu amryfal ddiddordebau Iolo Morganwg ac yn cyflwyno portread bywiog o'r saer maen amryddawn, y bardd derwyddol ac ymarferol, y crewr mythau rhamantaidd a'r sylwebydd amaethyddol.


Clawr - Bardic Circles

Bardic Circles: National, Regional and Personal Identity in the Bardic Vision of Iolo MorganwgCathryn A. Charnell-White
Adwaenid Iolo Morganwg yn ei ddydd fel un o feirdd Ynys Prydain a sylfaenydd Gorsedd y Beirdd. Yn y gyfrol hon trafodir y modd y defnyddiodd ei weledigaeth farddol-dderwyddol i ymgyrchu o blaid achosion cenedlaethol, rhanbarthol a phersonol.


Clawr - The Truth Against the World

The Truth against thr World: Iolo Morganwg and Romantic ForgeryMary-Ann Constantine
Yn ystod oes Iolo Morganwg yr oedd Prydain yn drwm dan ddylanwad ffugio llenyddol. y mae'r gyfrol hon yn datgelu rhai o'r cysylltiadau annisgwyl a'r dylanwadau cudd y tu ol i ffigiwr Rhamantaidd mwyaf llwyddiannus (ac, o'r herwydd, lleiaf amlwg) ei ddydd.


Clawr - The Literary and Historical Legacy of Iolo Morganwg
The Literary and Historical Legacy of Iolo Morganwg 1826-1926
Marion Loffler
Y mae'r gyfrol hon yn olrhain hynt y derbyniad cyhoeddus a'r feirniadaeth o weithiau Iolo Morganwg, datblygiad ei syniadau gorseddol ac eisteddfodol a'r chwedloniaeth a dyfodd am yr 'hen Iolo' yn ystod y ganrif ar ol ei farw.


Clawr - The Correspondence of Iolo Morganwg
The Correspondence of Iolo Morganwg
Geraint H. Jenkins, David Ceri Jones a Ffion M. Jones
Yn y tair cyfrol hyn ceir golygiad beirniadol cyntaf o ohebiaeth gyfoethog a thoreithiog Iolo Morganwg rhwng 1770 a 1826. Teflir goleuni llachar ar fywyd a gwaith y gwr rhyfedd hwn gan ein dwyn yn nes at y Gymru Rhamantaidd nag erioed o'r blaen.

Cyhoeddiadau'r prosiect: manylion pellach

Cyhoeddiadau'r prosiect

Cynadleddau'r prosiect

2002 - Gweledigaeth Iolo Morganwg
2003 - Hynt a Helynt Iolo Morganwg
2004 - 'Rattleskull Genius': Iolo Morganwg a'i ffrindiau
2006 - Etifeddiaeth Iolo Morganwg
2007 - Y Bardd a'r Derwydd - Iolo Morganwg
2008 - Ffarwél i'r Hen Ddewin
Admin