E N G L I S H

Cyhoeddiadau'r Prosiect


Geraint H. Jenkins, Ffion Mair Jones & David Ceri Jones (eds.), The Correspondence of Iolo Morganwg (3 vols., Cardiff, 2007)
Clawr - The Correspondence of Iolo Morganwg

Un o brif drysorau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw ei chasgliad o lythyrau Iolo Morganwg. Cyhoeddwyd fersiwn golygedig o'r llythyrau hyn ar ffurf tair cyfrol sylweddol. Ceir 1260 o lythyrau yn y casgliad, yn ymestyn o 1770 tan 1826, ac y maent yn ddrych eithriadol o ddiddorol o fywyd lliwgar a chythryblus Iolo ei hun. Rhwng y llythyrau eu hunain, y troednodiadau helaeth a baratowyd, a'r rhagymadrodd sylweddol, mae'r golygiad hwn - y cyntaf o'i fath - yn ymestyn i dros filiwn o eiriau.


Clawr - The Truth Against the World
Mary-Ann Constantine, The Truth Against the World: Iolo Morganwg and Romantic Forgery (Cardiff, 2007)

Yn ystod oes Iolo Morganwg yr oedd ffugio llenyddol yn obsesiwn gan bobl ddarllengar Prydain. Trwy ddyfynnu'n helaeth o lawysgrifau anghyhoeddedig Iolo, bydd y gyfrol hon yn datgelu'r cysylltiadau annisgwyl a'r dylanwadau cudd y tu ôl i un o ffugwyr mwyaf llwyddiannus, ac felly lleiaf amlwg, Prydain. Archwilir syniadau Iolo ei hun ynghylch Gwirionedd - hanesyddol, llenyddol a chrefyddol - a dangosir sut yr ymatebodd ef i waith James Macpherson a Thomas Chatterton, gan gynnwys ei ymateb i farn y beirniaid amdanynt. Bydd y llyfr hefyd yn dangos sut yr effeithiodd ei syniadau, wedi iddo farw, ar y Llydawr Hersart de la Villemarqué, y gŵr a roes hwb i'r dadeni Celtaidd yn Llydaw wedi iddo gael ei urddo'n fardd yn y traddodiad Ioloaidd ym 1838. Bydd y gyfrol yn ymwneud â dau faes beirniadol sy'n boblogaidd ar hyn o bryd: ffugio llenyddol yng nghyd-destun Rhamantiaeth Brydeinig, a 'Cheltigiaeth', sef pwnc sy'n archwilio datblygiad y cyd-gysylltiad rhwng y parthau Celtaidd a'i gilydd yn ogystal â'r berthynas gymhleth rhwng y cyrion hynny a'r canol.


Clawr - Bardic Circles
Cathryn A. Charnell-White, Bardic Circles: National, Regional and Personal Identity in the Bardic Vision of Iolo Morganwg (Cardiff, 2007)

Fersiwn amgen, radicalaidd, o'r traddodiad barddol proffesiynol dilys oedd Barddas, sef gweledigaeth farddol-dderwyddol Iolo. Seiliwyd fframwaith cyntefigaidd (S. primitivist) dyfeisgar Barddas ar ddau gysyniad cyd-ddibynnol: gwareiddiad a barbariaeth. Defnyddiodd Iolo y cysyniadau hyn i ddilysu delwedd a hunaniaeth ei Gymru gyfoes. Trwy Barddas creodd oriel o arwyr rhyfeddol ar gyfer ei gyd-Gymry a darparodd hefyd ei sefydliad cenedlaethol cyntaf: Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Trwy gefnogi rhyddid, cydraddoldeb, rhyddid mynegiant a gwrthwynebiad i ryfel, bu Barddas yn fodd i chwalu ystrydebau cyfoes ynghylch y Celt barbaraidd. Gyrrid Iolo hefyd gan gymhellion lleol a phersonol, ac felly yr oedd fframwaith deallusol Barddas hefyd yn ddigon gwydn i'w alluogi i fawrygu Morgannwg ac i ail-lunio ei ddelwedd gyhoeddus ef ei hun. Wrth drafod yr haenau cenedlaethol, lleol a phersonol yn ei weledigaeth farddol, daw'r syniad o genedlgarwch barddol i'r amlwg, a hefyd y tensiynau anorfod a ddatblygodd wrth i Iolo fynegi teyrngarwch cenedlaethol a lleol.


Clawr - The Literary and Historical Legacy of Iolo Morganwg
Marion Löffler, The Literary and Historical Legacy of Iolo Morganwg, 1826-1926 (Cardiff, 2007)

Cafodd etifeddiaeth lenyddol a hanesyddol Iolo Morganwg ddylanwad grymus ar ddychymyg Cymreig ac Ewropeaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bydd y gyfrol hon yn dadlennu'r modd y crewyd myth ynghylch cymeriad, bwriadau a dyheadau Iolo Morganwg. Trafodir datblygiad Gorsedd Beirdd Ynys Prydain a thwf derwyddiaeth, yr ymateb i'w ddehongliad o'r gorffennol, a dylanwad y farn ysgolheigaidd ar ei fersiwn ef o'r gorffennol. Teflir goleuni ar ddull Iolo o weithio ac ar ei feddylfryd mewn detholiad o ddogfennau yn seiliedig ar gynnyrch printiedig Oes Victoria.


Cover - Rattleskull Genius
Geraint H. Jenkins (ed.), A Rattleskull Genius: The Many Faces of Iolo Morganwg (Cardiff, 2005)

Gellir dadlau mai Iolo Morganwg yw'r ffigwr mwyaf rhyfeddol yn holl hanes diwylliannol Cymru. Datblygodd ei yrfa faith a stormus yn erbyn cefnlen o gynnydd, o ddiwydiannu ac efengylu yn oes yr oleuedigaeth a rhamantiaeth. Felly, nid oes ryfedd bod mwy nag un Iolo yn ei amlygu ei hun: y saer maen amldalentog, y bardd derwyddol, y bardd dosbarth gweithiol, y consuriwr mythau rhamantaidd, y ffugiwr celfydd, y radical gwleidyddol, y sylwebydd amaethyddol, apostol gwrth-drindodiaeth, a llawer mwy. Yr oedd ei fywyd yn gyforiog o eironi, o baradocsau a gwrthddywediadau, a bwriad y gyfrol gyffrous hon yw ailgloriannu ei ddiddordebau amrywiol a dathlu campau amlochrog gŵr amherffaith ond eithriadol o ddiddorol a'i disgrifiodd ei hun fel 'rattleskull genius'.



Cathryn Charnell-White, Barbarism and Bardism: North Wales versus South Wales in the Bardic Vision of Iolo Morganwg (Aberystwyth, 2004)

Mary-Ann Constantine, 'Combustible Matter': Iolo Morganwg and the Bristol Volcano (Aberystwyth, 2003)

Geraint H. Jenkins, Facts, Fantasy and Fiction: The Historical Vision of Iolo Morganwg (Aberystwyth, 1997)

Geraint H. Jenkins, 'Perish Kings and Emperors, but Let the Bard of Liberty Live' (Aberystwyth, 2006)

Hywel Gethin Rhys, 'A Wayward Cymric Genius': Celebrating the Centenary of the Death of Iolo Morganwg (Aberystwyth, 2007)
Admin