Etifeddiaeth IoloYr oedd gan etifeddiaeth Iolo Morganwg afael gadarn ar y meddwl Cymreig yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cofiant Elijah Waring iddo, sef Recollections and Anecdotes of Edward Williams (1850), oedd sylfaen y fytholeg a dyfodd o'i amgylch ac a gysylltodd y Cymry cyfoes â deffroad diwylliannol Cymreig y ddeunawfed ganrif a'r syniad o genedl ddelfrydol, gyn-ddiwydiannol. Mynegwyd etifeddiaeth Barddas yn gyhoeddus yn seremonïau Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Yn ystod canrif lle y cyfrannodd Rhamantiaeth a chenedlaetholdeb at olygwedd hanesyddol o genedligrwydd, bu'r deunydd ffug a ychwanegodd Iolo at ffynonellau hanesyddol Cymru o gymorth i ysgolheigion Cymreig a oedd yn chwilio am naratif hanesyddol canolog. Eto i gyd, dim ond cylch bychan o Undodwyr a werthfawrogai emynau a barddoniaeth Iolo. Gwedd anuniongyrchol ar etifeddiaeth Iolo Morganwg oedd y feirniadaeth gynhwysfawr o'i waith a ganiataodd i ysgolheigion Cymreig proffesiynol gywiro'r naratif hanesyddol cenedlaethol ar dir gwleidyddol. Trafodir hyn gan Marion Löffler yn ei monograff, The Literary and Historical Legacy of Iolo Morganwg, 1826-1926 (Cardiff, 2007)] |