Y Ffigwr MythaiddDaeth Iolo Morganwg yn ffigwr allweddol mewn mudiadau Cymreig yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ef oedd y ddolen gyswllt rhwng hanes cynnar Prydain a'r presennol, a rhoddodd i'r Cymry orffennol a ymestynnai y tu hwnt i gofnodion hanesyddol ysgrifenedig. Defnyddiwyd y llawysgrifau a ddaeth i sylw'r cyhoedd (rhai ohonynt yn cynnwys ei ffugiadau) er mwyn hybu'r gred fod y Cymry yn genedl grefyddol ac mai hi oedd y genedl Gristnogol hynaf yn Ewrop. Ystyrid The Myvyrian Archaiology of Wales (1801-7) yn garreg filltir yn hanes cenedlgarwch ac ysgolheictod Cymreig. Tyfodd y myth am Iolo Morganwg o ganlyniad i gofiant Elijah Waring iddo, sef Recollections and Anecdotes of Edward Williams (1850). Seiliwyd y gyfrol hon ar straeon a glywsai'r awdur gan Iolo Morganwg yn y 1820au, ac ar ei ohebiaeth. Datblygwyd tair agwedd ar bersonoliaeth Iolo Morganwg: y gŵr doeth sanctaidd, yr hynafiaethydd talentog a'r arwr llên gwerin digyfnewid. Mynegwyd pob un o'r agweddau hyn yn y disgrifiadau cyffredinol o Iolo ac mewn anecdotau a ailargraffwyd yn fynych. Y gŵr doeth sanctaiddY deunydd canlynol, a luniwyd tua 1851, a osododd y sylfaen ar gyfer y myth o Iolo fel y gŵr doeth sanctaidd:Peidiwch dynesu at Iolo Morganwg, nac at un dyn geirwir, gonest, didwyll, calonog arall. Y mae dyn o'r fath hyn yn aneddu mewn mangre rhy uchel i chwi â'ch llygaid gwyrgam, ei weled yn oleuglaer; ac yn arogli awyr rhy iachusber i'ch cylla a'ch ysgyfaint chwi ei hanadlu, heb beri arteithiau i'ch calonau - cedwch rhagddi, da chwithau, er eich mwyn eich hunain. Am dano ef, a'i fath, nid yw eich crach-feirniadaeth nac yma nac acw. Safant y gwir ddynion ar uchelfan, allan o sŵn sisial yr hystyngwr, a'r clapgi, a dirmygwr ei frawd yn ei absenoldeb. Yr hynafiaethydd talentogPwysleisiwyd gwreiddiau cyffredin a galwedigaeth ostyngedig Iolo gan ei edmygwyr oherwydd eu bod yn atgyfnerthu eu cred yn y werin Gymreig:Nid oedd ond dyn tlawd - saer maen wrth ei alwedigaeth - hunan-addysgedig (ni chafodd awr o ysgol eriod), gyda gwraig a thŸaid o blant, i'r rhai yr oedd dan orfod ennill cynaliaeth drwy chwys ei wyneb. Y syndod i mi, pan ystyriwyf y cwbl, yw, sut y gallodd wneuthur cymaint. Meddylier am y cannoedd o filltiroedd a deithiodd, gan fwyaf ar draed; y llyfrgelloedd yr ymwelodd â hwynt; y llu cyfrolau - tua chant - a ddarllenodd ac a gopïodd er mwyn ceisio achub ein hen lenyddiaeth rhag difancoll. Rhodder chwareu teg i'r hen Iolo, o leiaf; a thawed y grwgnachgwyr hyd oni chyflawnant yr hanner a wnaeth. Yr arwr llên gwerin digyfnewidTrawsffurfiwyd elfennau radicalaidd etifeddiaeth Iolo yn hanesion mwy diniwed ac addysgiadol:I am glad you have given a notice and portrait of old Iolo. Perhaps the following anecdote will amuse your readers: - Iolo, when in London, was waited upon by a nobleman, who left his card, as Iolo was out, and his wish that the old Welshman would do him the honour of calling.
Iolo did call, in his humble suit, and his hard rap with the stick brought a servant to the door, who eyed him in amazement. 'What do you want, fellow, by rapping like that?' 'To see Lord -', 'You should go to the back, man.' 'No, I won't.' 'What is your name?' 'That is my business. I want to see his lordship.' 'He'll horsewhip you if you don't get off.' 'No, he won't', said Iolo. 'Tell him that a man wishes to see him.' Back went the servant, who reported that an impudent, abusive fellow was at the door, who would not give his name, but insisted on seeing his lordship, and the nobleman, a very irate worthy, seized his horsewhip and rushed to the door, crying out as he cracked his whip, 'Now fellow, you want a thrashing, do you?' 'Hold', cried Iolo, as Lord - came unpleasantly near. 'Hold, - Strike a Welshman if you dare, Ancient Britons as we are, We were a nation of renown Before a Saxon wore a crown.' 'Iolo!' exclaimed his lordship with delight, throwing his whip at the servant and holding out eagerly his hand; and forthwith the old bard was marched in, an honoured guest. |