![]() Emynau Iolo mewn e-lyfr!Detholiad o Emynau Iolo Morganwg gol. Cathryn A. Charnell-WhiteManylion pellach maes o law>>> IOLO MORGANWGY mae EDWARD WILLIAMS (1747-1826) yn fwy adnabyddus wrth ei enw barddol, IOLO MORGANWG. Fel yr awgryma ei enw barddol, un o frodorion bro MORGANNWG oedd Iolo, a'r sir hon a'i hanes oedd canolbwynt Barddas, ei weledigaeth farddol. Fel ei dad a'i frodyr, yr oedd Iolo yn SAER MAEN crefftus. Ond ystyrir Iolo hefyd yn SAER CENEDL ar sail ei gyfraniad i'r adfywiad diwylliannol a ddigwyddodd yn y ddeunawfed ganrif ac oherwydd iddo ddyrchafu gwareiddiad Cymru trwy gyfrwng Barddas a Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Iolo hefyd oedd y cyntaf i wyntyllu'r syniad o gael sefydliadau cenedlaethol megis llyfrgell genedlaethol, academi a choleg ar gyfer y Cymry. STORI LAWN >>> Gair am y prosiect![]() Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3HH. ![]() STORI LAWN >>> |