Emynau a cherddiNi dderbyniodd radicaliaeth grefyddol a gwleidyddol Iolo Morganwg a'i gyfraniad i farddoniaeth Gymraeg yr un sylw â'i weledigaeth farddol a'i ffugiadau. Fe'u gollyngwyd dros gof gan genedl nad oedd arni eu hangen yn wleidyddol. Dim ond rhan fechan o etifeddiaeth Iolo fel bardd a ddaeth i sylw'r cyhoedd. Defnyddiwyd ei emynau gan enwad Protestannaidd yr Undodiaid yn siroedd Caerfyrddin a Cheredigion. Ymddangosodd detholiad o'i gerddi mewn cyfnodolion ac ar gerrig beddau. EmynauPedwerydd pennill emyn rhif 21 o gyfrol gyntaf Salmau yr Eglwys yn yr Anialwch (1812) oedd sylfaen y cwestiwn olaf yng nghatecism yr Undodiaid ar gyfer disgyblion hŸn:26. G. Sut mae profiad crefyddol Iolo Morganwg yn cadarnhau addysg y gwersi hyn? Dod i mi'r fendith, fy Nuw mawr, Fod rhan o'r byd lle'r wyf yn awr, Yn nes at ffyrdd dy 'wyllys di, Yn well ryw faint o'm achos i: Os hyn a gaf o'th nefol ddawn, Caf y byd hwn yn hyfryd iawn: Tra threiglwyf ei ddiffaethwch ef Caf deimlo'm enaid yn y nef. CerddiY mae'r englyn 'Y Dyn Uniawn' yn datgan nad oes angen i'r sawl sy'n byw bywyd rhinweddol ofni dydd y farn a diwedd y byd. Fe'i ceir, ar ôl salm rhif 195, yng nghyfrol gyntaf Iolo o emynau, ac fe'i gwelir hefyd yn aml ar gerrig beddau Undodaidd:Un a fo'n iawn ei fywyd - a gedwir Yn gadarn ei wynfyd, Ni chil, ni fyn ochelyd Na dydd barn na diwedd byd. |