Iolo Morganwg a ffugio RhamantaiddForgeries of this nature are very recent things. So is the taste, or more properly rage, for antiquities of all kinds, ancient Poetry, ancient Castles, ancient Taylor's bodkins etc., etc. Booksellers have of late years given large sums for ancient mss and translations from them, as Macpherson very well knew. (NLW 13112B, t. 21) Yn rhinwedd ei swyddogaeth fel amddiffynnwr y traddodiad Cymreig, yr oedd Iolo'n gyfarwydd â dadleuon llenyddol mawr y 1760au a'r 1770au ynghylch dilysrwydd barddoniaeth Ossian (bardd Gaeleg o'r drydedd ganrif) a Thomas Rowley (offeiriad o Fryste a oedd yn byw yn y bedwaredd ganrif ar ddeg). Yn ystod y 1790au a'r 1800au cynnar yr oedd Iolo, fel nifer o'i gyd-wladwyr, yn amheus iawn o honiadau James Macpherson am Ossian, y bardd o'r Alban. Yn yr un modd, wfftiai at weledigaeth ganoloesol ffug y Thomas Chatterton ifanc. Yn achos Macpherson, lliwiwyd beirniadaeth Iolo gan ddicter moesol. Yn wir, credai y dylid crogi Macpherson - 'a perjurer of intentional deceit' - am ei dwyll bwriadol. ![]() Trafodir y pwnc hwn gan Mary-Ann Constantine in The Truth Against the World: Iolo Morganwg and Romantic Forgery (Cardiff, 2007) Ossian a Thomas RowleyYmddangosodd fersiynau Saesneg o'r cerddi Gaeleg a briodolwyd i'r bardd Ossian am y tro cyntaf mewn pamffled bach dienw ym 1760. Yn fuan wedyn cyhoeddwyd cerddi epig mwy uchelgeisiol o'i eiddo, Fingal (1761) a Temora (1763).Cynnyrch yr Ymoleuo yn yr Alban oedd eu 'cyfieithydd' ifanc, James Macpherson. Canmolwyd ei waith gan yr ysgolhaig a'r beirniad Hugh Blair (Caeredin) a bu darllen mawr ar ei gyfrol ar farddoniaeth Ossian, A Critical Dissertation on the Poems of Ossian (1763). Darluniau pruddglwyfus o dirlun gwyntog Ucheldiroedd yr Alban a geir yn y cerddi a chawsant gryn lwyddiant drwy Ewrop benbaladr a'r tu hwnt. Fe'u cyfieithwyd i nifer o ieithoedd gwahanol, gan ysbrydoli amrywiaeth o weithiau, yn ddarluniau, llenyddiaeth a cherddoriaeth. Yr oeddynt yn gyfrifol hefyd am hybu diddordeb ym marddoniaeth frodorol diwylliannau lleiafrifol ac anghofiedig Ewrop. Ochr yn ochr â'u llwyddiant barddonol, ceid dadl ysgolheigaidd ffyrnig ynghylch eu hynafiaeth a'u dilysrwydd. Honnodd Macpherson iddo gyfieithu darnau hynafol a gododd o'r traddodiad llafar. Ond amheuid hyn yn fawr gan wŸr fel Samuel Johnson, ac (ym Mhrydain o leiaf) daeth Ossian yn gyfystyr â ffugio llenyddol. Parhaodd y ddadl ymhell wedi dyddiau Macpherson, a fu farw ym 1796. Bu'n rhaid aros tan yr ugeinfed ganrif am ystyriaeth ddifrifol o ddefnydd (a chamddefnydd) Macpherson o'r traddodiad Gaeleg ar ffurf ysgrifenedig a llafar. Cyrhaeddodd y ddadl ynghylch Rowley uchafbwynt yn niwedd y 1770au, rai blynyddoedd wedi marwolaeth annhymig Thomas Chatterton mewn nenlofft yn Llundain ym 1770. Yr oedd yn ddwy ar bymtheg oed ac y mae'n bosibl iddo farw trwy ei law ei hun. Defnyddiodd Chatterton ei ddawn aeddfed a'i gariad at orffennol canoloesol ei gynefin ym Mryste i lunio corff diddorol o ddeunydd ffug-hanesyddol a cherddi. Priodolodd y rhain i fynach o'r bymthegfed ganrif, sef Thomas Rowley. Ceir ymhlith y dogfennau hanes adeiladu eglwys St Mary Redcliffe, ac agoriad mawreddog y bont newydd ym 1247. Y mae'r ffugiadau yn ychwanegu haenau o gymhlethdod at gyfnod hanesyddol a oedd yn brin o ffynonellau dilys, ac yn hyn o beth y maent yn debyg i ffugiadau Iolo. Fel creadigaethau Iolo, tueddant i bwysleisio goruchafiaeth a soffistigeiddrwydd milltir sgwâr Chatterton ym Mryste, yn enwedig ardal Redcliffe. Yr oedd cerddi Rowley o ddiddordeb cenedlaethol ehangach oherwydd awgryment fod oes aur llenyddol annisgwyl eto i'w darganfod. Ni pharhaodd y ddadl ynghylch dilysrwydd gwaith Chatterton yn yr un modd â'r ddadl ynghylch Ossian. Yn hytrach, cydiodd cymeriad Chatterton ei hun yn y dychymyg poblogaidd a daeth yn batrwm, i awduron fel Coleridge, Keats a John Clare, o'r bardd-athrylith a esgeuluswyd. Y cyd-destun rhyngwladolDros y blynyddoedd ceisiwyd esbonio tuedd Iolo i ymhél â ffynonellau hanesyddol a llenyddol mewn sawl ffordd: gorddibyniaeth ar lodnwm, gwendid yn ei bersonoliaeth, a gwenwyn yn erbyn y sawl nad oedd yn cydnabod mawredd ei annwyl Forgannwg. Y mae'n siŵr fod yr holl bethau hyn yn eu tro yn bwysig, ond buddiol hefyd yw gosod gweithgareddau Iolo yng nghyd-destun twf cenedlaetholdeb ar hyd a lled Ewrop.Yr oedd Ossian yn batrwm (ac yn ysbrydoliaeth) i hynafiaethwyr nifer o wledydd bychain yn Ewrop i fynd ati i ailddarganfod eu hieithoedd brodorol a'u gorffennol. Aethpwyd ati i chwilio am lawysgrifau cynnar, neu, yn niffyg y rheini, am 'ganeuon y bobl', sef baledi a chaneuon gwerin a oedd yn crisialu gwir hanfod hunaniaeth cenedl. Yr oedd y brwdfrydedd hwn at hynafiaethau (fel y nododd Iolo ei hun) yn cynnig cyfle di-ail i ffugwyr. Nid Iolo Morganwg oedd yr unig ysgolhaig i droi ffynonellau bregus ac anghyflawn yn bethau cryfach a disgleiriach nag oedd y dystiolaeth yn caniatáu. Y mae'r caneuon yn Barzaz-Breiz yn Llydaw, a'r cerddi Tsiecaidd a gedwir yn llawysgrifau Dvůr Králové yn cynnig dwy enghraifft bellach o'r arfer o 'greu traddodiad'. Hersart de La Villemarqué a Barzaz-BreizYm 1839 cyhoeddodd Hersart de La Villemarqué, uchelwr ifanc o Lydaw, gyfrol yn dwyn y teitl Barzaz-Breiz, sef casgliad o ganeuon a godwyd, meddai, o enau gwerinwyr Llydaw: cardotwyr a thinceriaid, gwehyddion a theilwriaid. Cyhoeddwyd y testunau Llydaweg ochr yn ochr â chyfieithiadau Ffrangeg, gyda nodiadau niferus. Fe'u trefnwyd yn gronolegol, a honnid eu bod yn adlewyrchu hanes Llydaw dros gyfnod a oedd yn ymestyn mor bell yn ôl â chyfnod y derwyddon. Cadarnhawyd hynafiaeth a Cheltigrwydd y testunau trwy ddyfynnu'n helaeth o lawysgrifau Cymraeg cynnar a thrwy gymharu'r deunydd Llydaweg a Chymraeg.Talaith Ffrengig dlawd a diymgeledd oedd Llydaw ar y pryd ond, diolch i'r cerddi hyn, yr oedd ganddi bellach dras lenyddol barchus. Gyda chymorth Barzaz-Breiz, a ailargraffwyd ar ffurf helaethach ym 1845 a 1867, 'ailgrewyd' Llydaw fel crud Rhamantiaeth Ffrengig - gwlad hudolus, a'i llên gwerin yn fodd i ddeall ei gorffennol pell. Bu i'r gyfrol swyddogaeth allweddol hefyd yn y mudiad i atgyfodi cenedlaetholdeb Llydewig. Ond ym 1868 cododd dadl ffyrnig ynghylch dull La Villemarqué o drin ei ddeunydd, ac am y can mlynedd nesaf yr oedd y ddadl a drôi o amgylch Barzaz-Breiz yn un emosiynol iawn. Dim ond ers cyhoeddi casgliad o lyfrau nodiadau'r awdur ifanc ym 1989 y llwyddodd beirniaid llenyddol i gynnig esboniad gwrthrychol o'i ddulliau llenyddol. Fel Macpherson, yr oedd dulliau La Villemarqué yn amrywio'n fawr. Ar brydiau y mae'n cadw'n weddol ffyddlon at draddodiad llafar cyfoethog ei wlad, ond dro arall y mae'n gwneud newidiadau sylweddol, yn gor-ddehongli'n frwd ac yn dyfeisio o'r newydd. Hanka a llawysgrifau Dvůr Králové a Zelená HoraYm 1817 darganfu Václav Hanka, ysgolhaig ifanc o wlad Tsiec, lawysgrif hynafol yn naeargell yr eglwys ym mhentref Dvůr Králové. Ynddi ceid corff o farddoniaeth ganoloesol a oedd yn cynnwys darnau o hanesion epig am frwydrau yn erbyn yr Almaenwyr, ynghyd â darnau telynegol tynerach eu natur. Nid amheuwyd dilysrwydd y llawysgrif ar y dechrau, a chafodd darganfyddiad Hanka groeso brwd gan ei fentor, yr ysgolhaig Slafonig Joséf Dubrovsky. Cyhoeddwyd y llawysgrif ym 1819.Tua'r un adeg, daeth llawysgrif arall i sylw'r byd academaidd. Yr oedd hon yn cynnwys deunydd ynghylch cyfreithiau cynnar honedig. Yr oedd ei tharddiad yn ansicr ac, at hynny, fe'i hysgrifennwyd mewn inc gwyrdd. Daethpwyd i'w hadnabod fel llawysgrif Zelená Hora ac i bob golwg hon oedd y ddogfen ysgrifenedig gynharaf i'w hysgrifennu yn yr iaith Tsieceg. Cyfieithwyd y gweithiau ac enillodd Hanka gryn fri rhyngwladol. Yn bwysicach o lawer, bu'r gweithiau a ddiogelwyd yn y llawysgrif yn anhepgor wrth atgyfnerthu'r sefydliad Tsiecaidd newydd ym Mhrâg. Yn ystod y cyfnod 1840-70 daeth y testunau cenedlaethol pwysig hyn yn rhan o feddylfryd y wladwriaeth newydd. Fel y profodd Dubrovský, tiwtor Hanka, cyhuddwyd unrhyw un a leisiai amheuon ynghylch dilysrwydd y llawysgrifau o fod yn anwladgarol. Wrth i rawd y genedl newid dros y ganrif nesaf, datblygodd y ddadl ynghylch natur y testunau wedd wleidyddol amlwg. Gwadwyd eu dilysrwydd gan y drefn Gomiwnyddol, ond fe'u hadferwyd yn sgil Chwyldro Melfed 1989. Er i'r gymuned ysgolheigaidd ryngwladol gydnabod ers llawer dydd mai ffugiadau yw'r llawysgrifau hyn, nid yw'r ddadl yn eu cylch wedi ei derbyn yn derfynol o fewn y Weriniaeth Tsiec ei hun. Y mae'n debyg, felly, mai dyma'r ffugwaith mwyaf estynedig ac arhosol yn hanes modern Ewrop. Ffugio Rhamantaidd - term dadleuolGellir diffinio ffugio fel gweithred o greu rhywbeth (darlun, arian papur neu lofnod) sy'n honni bod yn rhywbeth nad ydyw. Y mae'n aml yn weithred anghyfreithlon, sydd yn cael ei chyflawni er budd ariannol.Ond mae'n anos diffinio ffugio llenyddol neu hanesyddol, ac y mae'r term ei hun yn un nad oes cytuno yn ei gylch. Wedi'r cyfan, rhan o dasg yr hanesydd yw gweu llinyn storïol am y gorffennol ar sail y ffynonellau hanesyddol sydd ar gael, ac weithiau gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng dehongli damcaniaethol a dehongli sy'n fwriadol gamarweiniol. Yn yr un modd, rhan o dasg y bardd neu'r nofelydd yw dychmygu bydoedd gwahanol (ac yn aml gofynnir iddo neu iddi ail-greu'r gorffennol). Yn wir, gellir deall gwaith nifer o 'ffugwyr' yn well o'u hystyried fel artistiaid neu wneuthurwyr. Yn anochel, wrth drafod y gweithiau dadleuol hyn, defnyddiwyd iaith emosiynol er mwyn beio neu amddiffyn yr awduron, a dim ond yn ddiweddar y cymerwyd cam yn ôl wrth ystyried y ffenomen hon o safbwynt mwy gwrthrychol. Y mae'r trafodaethau safonol diweddar yn pwysleisio natur 'ffiniol' y deunydd: nid llenyddiaeth mohono nac ychwaith hanes o'r iawn ryw, ond yn hytrach 'arbrofion mewn hanes dychmygol' (Donald Taylor, Thomas Chatterton's Art: Experiments in Imagined History (Princeton, 1978)). |