Yr Archif'My sheets of transcript, the labours of many years, are for the most part unbound and in great disorder, like every thing else with me. I have always had too many irons in the fire, a llawer un ohonynt yn llosgi'n ulw.' (Iolo Morganwg at Owen Jones (Owain Myfyr), 26 Gorffennaf 1800) Mae archif Iolo Morganwg yn un o archifau mwyaf cyfoethog Cymru. Mewn llythyr at William Owen Pughe, dyddiedig 12 Mawrth 1788, disgrifiodd Iolo ei gasgliad fel 'yr aneirif bapirau didrefn (yr anialwch dyrus, fal y mae'n gymmwys ei alw)'. Ond nid 'anialwch dyrus' mo'r archif ond gwerddon hudolus wedi ei chatalogio a'i rhwymo'n daclus! Y mae'n gyforiog o lythyrau, llyfrau nodiadau, teithlyfrau, traethodau, mân nodiadau a darluniau. Papurau amrywiol Iolo, wedi'u rhwymo'n 80 cyfrol, sy'n ffurfio craidd y casgliad, ond ymgorfforir ynddo hefyd ei gasgliad preifat o lawysgrifau gan bobl eraill a berthyn i'r 16eg ganrif a'r 18fed ganrif. Cedwir yr archif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn dilyn marwolaeth Iolo ym 1826 trosglwyddwyd y llawysgrifau a'r papurau (heb eu rhwymo) i ofal ei fab Taliesin Williams (Taliesin ab Iolo). Yn fuan wedi marwolaeth Taliesin ym 1847 daeth papurau Iolo i feddiant Augusta Waddington Hall, Arglwyddes Llanofer, un o noddwyr pwysicaf y diwylliant Cymreig ym Morgannwg yn ystod y 19eg ganrif. Ymddiriedwyd y casgliad hwn, a adwaenid bellach fel 'Casgliad Llanofer', i'r Llyfrgell Genedlaethol gan ŵyr Arglwyddes Llanofer, yr Uwchfrigadydd Syr Ivor John Caradoc Herbert, Barwn 1af Treowen, ym 1916. Ni ddiogelwyd y cyfan o bapurau ac ysgrifau Iolo yng nghasgliad Llanofer oherwydd daliodd aelodau'r teulu eu gafael ar y llythyrau, ynghyd â phapurau o natur bersonol a gwleidyddol. Cyflwynwyd y rhain i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ym 1953-4 gan ddisgynyddion Iolo yn Llundain, Mr Iolo Aneurin Williams a Miss H. Ursula Williams. Adwaenir y casgliad hwn fel 'Casgliad Iolo Aneurin Williams'. Casgliad Llanofer NLW 13061B-13178B Casgliad Iolo Aneurin Williams NLW 21287B-21433E Llythyrau Iolo Morganwg NLW 21280E-21286E |